
EUROS ROWLANDS





Ysbrydolwyd y gyfres ‘O dir trugarog’ gan y ffilm ‘For Sama’, sy’n dogfennu profiad teulu yn Aleppo, a’r erchylldra a’r dioddefaint sydd wedi cael ei wynebu yn Syria dros y blynyddoedd diwethaf. Cefais fy effeithio’n fawr wrth wylio’r dinistr ar y newyddion ar y pryd, ond teimlo nad oedd gennyf y gallu i gyfleu dioddefaint o’r fath raddfa, ond wrth wylio’r profiadau ar lefel mor ddynol rhai blynyddoedd yn ddiweddarach yn y ffilm, teimlais yr angen i greu cyfres a oedd yn deirnged i’r ddinas ac i fy ymateb emosiynol. Mae’r gyfres o chwech canfas yn ddarnau cyfrwng cymysg sy’n defnyddio delweddau o bapurau newydd, nid yn uniongyrchol o Aleppo, ond yn hytrach sy’n cyfleu mynegiant a oedd yn crisialu fy ymateb, ynghyd ac olion paent ar dap masgio, darnau o lyfrau, a paent olew. Daw’r teitl o’r gerdd ‘Lament for Syria’ gan Amineh Abou Kerech, ac fel y gerdd, a ‘For Sama’, roeddwn am greu darnau sy’n troedio ar y ffin bregus rhwng gobaith a thrasiedi yng ngwyneb y fath ddinistr anfaddeuol.